Coden fwg gyffredin

Coden fwg gyffredin
Lycoperdon perlatum

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Fungi
Dosbarth: Basidiomycota
Urdd: Agaricales
Teulu: Lycoperdaceae
Genws: Lycoperdon[*]
Rhywogaeth: Lycoperdon perlatum
Enw deuenwol
Lycoperdon perlatum
Pers.

Math a rhywogaeth o ffwng yn nheulu'r Lycoperdaceae yw'r Coden fwg gyffredin (Lladin: Lycoperdon perlatum; Saesneg: Common Puffball).[1] 'Y Codau Mwg' yw'r enw ar lafar ar y grwp mae'r ffwng yma'n perthyn iddo, ond nid yw'n derm gwyddonol. Puffball yw 'coden fwg' yn saesneg, a'r 'mwg' yw'r sborau a welir yn dianc I'r awyr, pan gyffyrddir y goden. Ceir enw Cymraeg arall ar y rhywogaeth hon, sef Snisin y bwgan. Mae'r teulu Lycoperdaceae yn gorwedd o fewn urdd yr Agaricales.

Gwelir nifer o'r madarch hyn yn aml yn ffurfio cylchoed, a elwir ar lafar yn "gylchoedd Tylwyth Teg". Defnyddir y ffwng hwn wedi'i goginio mewn bwydydd a gellir ei fwyta'n amrwd. Disgrifiwyd ac enwyd y tacson yma'n wreiddiol gan y naturiaethwr Christiaan Hendrik Persoon.

Mae'r rhywogaeth hon o ffwng i'w chael yn Ewrop, Awstralia, Asia, Gogledd America a De America. Fe'i ceir hefyd yn Seland Newydd.

  1. Gwefan y Bywiadur; CELl, lle ceir enwau safonol Cymraeg. Adalwyd 21 Chwefror 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy